EBR 18, 2017 - CATRINSIRIOL
Ar Fai 6ed bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon meddiannu dau gerbyd ar drên stêm Rheilffordd Eryri i godi arian i’r Ŵyl Fwyd fydd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar Fai 13eg. Gyda’r elw yn mynd tuag at gynnal yr ŵyl fwyd am ddim bydd teuluoedd yn mwynhau chwedlau lleol, teithiau natur a chrefftau ar ôl teithio heibio golygfeydd godidog Eryri a thirwedd chwedlonol fel Beddgelert a Dinas Emrys ar drên stêm. Bydd y daith trên, sy’n £15 i oedolion a £7.50 i blant, yn ddiwrnod hwyliog gyda Kariad y clown yn diddanu’r plant ar y daith cyn hoe yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn ym Mhrenteg. Yno bydd y storiwraig Mair Tomos Ifans yn adrodd chwedlau lleol, bydd taith gerdded fyr i ddysgu am fyd natur a gweithgareddau crefft i’w mwynhau. Bydd cyfle am bicnic neu i brynu pizza cartref Jones Pizza yn y ganolfan a chael ymweld â dosbarth agored newydd y ganolfan fydd yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar yr un diwrnod Dywed Gruff Owen, Rheolwr Prosiect Bywyd Gwyllt Glaslyn; “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu cefnogwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon i ddiwrnod agoriadol ein hystafell ddosbarth agored newydd. Mae gennym flwyddyn gyffrous o’n blaenau ac rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc Gwynedd wrth galon y peth. Bydd y dosbarth agored yn adnodd gwych ar gyfer ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid i ddysgu mwy am ein bywyd gwyllt lleol. Bydd hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer ein Swyddog Addysgiadol newydd, Teleri Lea, sydd eisoes wedi mynd ati i drefnu ymweliadau i ysgolion lleol dros dymor yr haf.” Bydd y trên yn gadael Gorsaf Rheilffordd Eryri yng Nghaernarfon am 10:00 gan dreulio dwy awr a hanner yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn cyn dychwelyd i Gaernarfon erbyn 16:15. Dyma’r ail dro i’r Reilffordd Eryri gefnogi’r ŵyl fwyd gan ddarparu dau gerbyd am ddim i gynnal digwyddiad codi arian. Dywed Clare Britton, Rheolwr Masnachol o Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri; “Rydym yn falch iawn o allu helpu Gŵyl Fwyd Caernarfon gynnal digwyddiad godi arian i Ganolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn eto eleni ac i ddangos ein cefnogaeth i fudiad cymunedol lleol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at redeg trên ychwanegol o Borthmadog i Gaernarfon ar ddiwrnod yr ŵyl ei hun ar Fai 13eg, sy’n siŵr o fod yn ddiwrnod penigamp.” Mae tocynnau ar gael o siop Palas Print. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd