Cystadleuaeth Cyrri Gŵyl Fwyd Caernarfon 2026

13eg Chwefror 2026


Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal cystadleuaeth cyrri er mwyn codi pres i gynnal yr Ŵyl yn 2027 (a fydd yn costio tua £60,000.) Mae’n noson hwyliog lle mae cystadleuwyr amatur yn dod â llond crochan o gyrri i Glwb Rygbi Caernarfon ac mae’r gynulleidfa’n blasu pob cyrri’n ddall ac yn eu marcio allan o 10. Bydd bar y Clwb Rygbi ar agor!

Bydd hyd at 10 cyrri i’w flasu ac mae’r marcio’n digwydd yn ddi-enw!

Mae tocynnau'n £15 ac ar gael ar-lein rwan.

*Bydd rhestr o gynhwysion bob cyrri yn cael ei arddangos ar y noson, a'ch cyfrifoldeb chi yw adnabod unrhyw alergenau.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru i gystadlu, cysylltwch â post@gwylfwydcaernarfon.cymru. Mae’r noson wastad yn hwyliog!

Clwb Rygbi Caernarfon
19:30pm
13 Chwefror

Ffurflen Tocyn Cystadleuaeth Cyrri

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

Prif Noddwyr


© 2026 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd