Chwefror 9fed 2024
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, ac mae’n costio mwy na £40,000 i’w chynnal bob blwyddyn. O’r herwydd mae pwyllgor yr ŵyl yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi arian. Un o gonglfeini calendr yr ŵyl erbyn hyn yw’r gystadleuaeth cyrri flynyddol, ac eleni bydd y gystadleuaeth fymryn yn wahanol. Yn ôl Osian Owen, aelod o bwyllgor yr ŵyl: “Mae syniad y gystadleuaeth yn syml. “Mae croeso i unrhyw un gofrestru i gystadlu o flaen llaw, does ’na ddim rhaid ichi fod yn gogydd proffesiynol – ysbryd y noson ydi rhannu bwyd cartref o ansawdd da mewn awyrgylch hamddenol. “Byddwn yn gwahodd cystadleuwyr i ddod â chrochan fawr o gyrri cartref ar y noson, ac yna bydd y Cofis yn penderfynu enillydd y gystadleuaeth drwy sgorio pob cyrri ar gardiau arbennig.” Ond mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn wahanol i flynyddoedd canlynol. Am y tro cyntaf, cynhelir dwy gystadleuaeth, un gyda chogyddion amaturaidd, a'r llall yn gystadleuaeth rhwng cynrychiolwyr bwytai cyrri’r dre. Aeth Osian yn ei flaen: “Tydan ni ddim yn brin o fwytai cyrri yng Nghaernarfon, a pha ffordd well o hyrwyddo’r tai bwyta hynny na Chystadleuaeth Cyrri? “Mae’r pwyllgor yn pwysleisio na fydd cogyddion proffesiynol a chystadleuwyr amaturaidd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.” Mae’r trefnwyr yn credu bod y fformat o flasu’n ddall yn caniatáu i fynychwyr feirniadu ar sail blas y cyrri’n unig. “Felly, yn ogystal â chystadleuwyr, bydd angen ffans cyri i feirniadu ar y noson. Dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau a digon o win; mae'n achlysur hwyliog iawn. “Mae’r gystadleuaeth yn crisialu gweledigaeth yr ŵyl fwyd, sef dathlu’r agwedd gymdeithasol o rannu bwyd da.” “Mae’r tocynnau’n £15 ac ar gael ar-lein neu yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.” Mae’r trefnwyr yn pwysleisio y bydd rhestr o gynhwysion bob cyrri yn cael ei arddangos ar y noson, ac mai cyfrifoldeb mynychwyr yw adnabod unrhyw alergenau. Cynhelir 7fed Cystadleuaeth Cyrri blynyddol Caernarfon ar Chwefror 9 yn Feed My Lambs, Caernarfon am 7pm. Dylai’r sawl sy’n dymuno cystadlu gysylltu â’r trefnwyr ar post@gwylfwydcaernarfon.cymru. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd