06 Medi 2021Nos Sadwrn, 18 Medi bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon a chyn berchennog Les Gallois yng Nghaerdydd, Francis Dupuy, yn cynnal digwyddiad blasu gwin unigryw yn ‘Yr Aelwyd’ yng Nghaernarfon. Yn ogystal â blasu ystod wych o winoedd, bydd Francis hefyd yn cynnig ymgynghoriad ar y gwinoedd gorau i weddu gyda'ch paled a'ch poced. Cyrhaeddodd Francis Gaerdydd ym 1989 a gwnaeth ei farc yn y brifddinas yn y 1990au gyda bwyty Le Gallois. Aeth ymlaen i lwyddiannau eraill lle roedd ei enw'n gysylltiedig â Pier 64 a Chez Francis. Gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant a chyfoeth o gysylltiadau, yn y DU a thu hwnt yn Ewrop, mae Francis a’i gwmni ‘Broga Wines’ yn dod ag ystod wych o winoedd i farchnad sy’n tyfu o hyd. Mae ei ffocws yn Broga Wines ar ddod o hyd i’r gwinoedd gorau gan gynhyrchwyr gwin bach sy’n angerddol am eu gwaith, tra’n gwrando ar y cwsmer. Dywedodd y trefnydd y noson, Menna Thomas o Gŵyl Fwyd Caernarfon, “Bydd yn hyfryd cael croesawu Francis i Gaernarfon. Mae'n anodd curo ei gyfoeth o wybodaeth, ac os ydych chi yn hoff o win, dylai hon fod yn noson ddiddorol ac hwyliog. “Ein nod ni yn Gŵyl Fwyd Caernarfon yw cefnogi’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac mae Francis Dupuy o Broga Wines yn ychwanegiad gwych at ein calendr o ddigwyddiadau eleni.” Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael o wefan Gŵyl Fwyd Caernarfon - [url]. Maent yn £17 y pen ac yn cynnwys gwin a bwyd ysgafn. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd