10fed Mehefin 2025Fis wedi’r ŵyl fwyaf llwyddiannus hyd yma - yr ŵyl fwyaf eto, gyda'r holl gostau wedi eu cwrdd - mae pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i gymryd blwyddyn o seibiant yn 2026. Ers ein gŵyl gyntaf, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi tyfu y tu hwnt i'n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd. Roedd ychwanegu’r ardal deuluol ym Mharc Coed Helen y llynedd yn gam pwysig, ac er bod y twf yn destun balchder ac yn hwb aruthrol i’r dre, mae hefyd wedi dod â chyfrifoldebau a phwysau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Mae’n anodd cyfleu cost ddynol trefnu gŵyl ar y raddfa hon. Rydan ni fel gwirfoddolwyr wedi rhoi oriau di-ddiwedd o'n hamser, ein hegni, a’n hangerdd i wneud pob gŵyl yn llwyddiant. Fodd bynnag, mae rhai gwirfoddolwyr allweddol angen camu o’r neilltu yn y flwyddyn i ddod, ac rydym yn cydnabod bod y model presennol yn gosod baich anghynaliadwy ar y rhai sy'n aros. Ar ôl ystyriaeth ofalus, mewn cyfarfod ar 9 Mehefin, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd seibiant yn 2026, a dynodi’r flwyddyn honno fel ‘blwyddyn i ddatblygu’. Bydd y seibiant yn caniatáu inni:
Rydym am sicrhau pobl y dref nad yw Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dod i ben. Yn ystod ein blwyddyn o seibiant, byddwn yn parhau i drefnu ein digwyddiadau codi arian poblogaidd fel ein cystadleuaeth cyri, ac yn ymrwymo i gefnogi digwyddiadau fel yr arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol (a drefnir gan y Cyngor Tref) a'r farchnad Nadolig (a gyd-drefnir gyda Galeri Caernarfon). Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol 2026 i barhau â’r trefniadau hyn ac i ddatblygu ein gweledigaeth newydd, darparu cyfleoedd hyfforddiant, a datblygu sgiliau perthnasol i aelodau. Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn dechrau cynllunio ar gyfer gŵyl 2027. Rydym hefyd yn galw ar unigolion sydd â diddordeb i ymuno â ni o’r newydd i gynllunio at 2027. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad. Rydym yn ystyried y flwyddyn nesaf fel cyfle i weithio'n agosach gyda busnesau a’r gymuned leol i sicrhau bod ein cymuned yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion economaidd yr ŵyl yn 2027 a thu hwnt. Hoffem fynegi ein diolch diffuant i bawb sydd wedi cefnogi Gŵyl Fwyd Caernarfon - ein gwirfoddolwyr, noddwyr, busnesau lleol, perfformwyr, stondinwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, pobl Caernarfon sydd wedi gwneud ein gŵyl mor llwyddiannus. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn 2027 gydag egni newydd, gan sicrhau bod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn parhau i ddathlu diwylliant bwyd bywiog ein cymuned am flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr i bawb. Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon Cwestiynau CyffredinPam cymryd seibiant rŵan pan mae'r ŵyl mor llwyddiannus? Mae llawer o wyliau llwyddiannus yn cymryd seibiannau strategol i sicrhau eu hirhoedledd. Mae'n well cymryd seibiant rŵan i ail-gynllunio na risgio llosgi allan, a allai arwain at ddiwedd parhaol y ŵyl. Beth am effaith economaidd ar fusnesau lleol? Rydym yn cydnabod pwysigrwydd economaidd yr ŵyl i'r gymuned. Yn ystod 2026, byddwn yn ymgynghori'n benodol â busnesau lleol i greu cyfleoedd partneriaeth mwy strwythuredig. Ein nod yw dod yn ôl yn 2027 gyda mwy o gyfle i fusnesau lleol elwa. A fydd unrhyw ddigwyddiadau bwyd yn parhau yn 2026? Er na fydd prif ŵyl yn 2026, rydym am barhau i drefnu bwyd noson Tân Gwyllt, y Farchnad Dolig, ein cystadleuaeth coginio cyri ac am ystyried cynnal rhai digwyddiadau cymunedol eraill. Byddwn yn cadarnhau manylion yn ddiweddarach. Pryd gawn ni ddiweddariadau am gynnydd yn ystod y seibiant? Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Sut gallaf helpu gyda chynllunio ar gyfer 2027? Croesawn unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r broses gynllunio neu wirfoddoli o’r newydd ar gyfer 2027. Cysylltwch â ni trwy ein cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefan. A yw hwn yn benderfyniad terfynol? Ydi, mae'r pwyllgor wedi pleidleisio ar y penderfyniad hwn ar ôl ystyriaeth drylwyr. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o ddychwelyd yn 2027 gyda gŵyl well a mwy cynaliadwy. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd