Cyhoeddi Rhaglen a Mapiau Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018!

MAI 03, 2018 - SOPHIE


CO NI OFF 2019!

Gyda ‘chydig dros wythnos i fynd tan y digwyddiad mawr, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn falch iawn o allu cyhoeddi’r rhaglen a’r mapiau terfynol!

Yn y rhaglen, gallech ddod o hyd i’r holl wybodaeth perthnasol am y diwrnod gan gynnwys manylion perfformiadau’r llwyfannau a’r arddangosfeydd, digwyddiadau i blant a’r holl wybodaeth am y stondinwyr fydd yn bresennol eleni!

Diolch yn fawr i W.O. Jones, Llangefni am eu gwasanaeth anhygoel yn dylunio ac argraffu i ni unwaith yn rhagor, i holl fusnesau’r dre (a thu hwnt) sydd wedi cyfrannu drwy dalu am hysbyseb, ac i bawb arall a fu ynghlwm â chadarnhau’r holl drefniadau terfynol!

Rydym fel trefnwyr yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cynorthwyo eleni, ac edrychwn ‘mlaen yn arw i’ch gweld yn yr ŵyl wythnos nesaf!

Cliciwch ar y lluniau i'w wneud yn fwy!


    	
			Stondinau'r Maes

Stondinau'r Maes

CO NI OFF 2019!

Stondinau'r Prom a'r Marina

CO NI OFF 2019!

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd