8 Mai 2025Ar ddydd Sadwrn 10 Mai bydd miloedd yn heidio i dref Caernarfon ar gyfer diwrnod sydd bellach yn un o brif ddigwyddiadau calendr blynyddol y fro – Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gyda’r rhagolygon tywydd yn ffafriol iawn unwaith eto, mae’r criw gwirfoddol sy’n trefnu’r Ŵyl yn awyddus i dynnu sylw’r cyhoedd at rai ychwanegiadau i’r Ŵyl yn 2025. “Eleni, mi fydd yna fwy o bwyntiau dŵr yfed o gwmpas yr Ŵyl lle gallwch chi ail-lenwi eich potel ddŵr,” meddai Nici Beech, Cadeirydd Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon. “Rydyn ni’n hynod o lwcus ac yn cael tywydd braf bob blwyddyn, felly eleni rydym wedi ceisio ei gwneud hi’n haws i bobl gael digon o ddŵr i’w yfed gydol y dydd wrth osod pwyntiau dŵr ar y Maes, yn Cei Llechi, Prom 2 ac yn yr ardal deuluol yn Parc Coed Helen. “Dan ni’n annog pawb i fwynhau’r diwrnod wrth yfed yn gyfrifol a chymryd gofal o’u hunain ac eraill o’u cwmpas.Mae’r Ŵyl yn un gymunedol a theuluol, ac mae’n bwysig felly bod pawb yn teimlo’n saff ar y diwrnod. ” Bydd pebyll gwybodaeth ganddon ni mewn pedwar rhan eleni gyda fflagiau’r ŵyl tu allan i bob un. Bydd y rhain yn cynnwys mapiau ac amserlenni’r dydd, bagiau siopa cotwm, breichledi papur i rieni plant bach, a bydd criw cyfeillgar yma yn barod i helpu a chynnig cymorth gydag unrhyw ymholiad. Mae’r Ŵyl hefyd yn darparu gofod tawel ar gyfer unrhyw un sydd eisiau hoe o’r dorf draw yn Llety Arall ar Stryd y Plas. “Os oes unrhyw beth yn codi ar y diwrnod, ewch draw at un o’r pebyll gwybodaeth a bydd rhywun yn hapus i’ch helpu,” meddai Nici. “A chofiwch fod y rhaglen ar gael ar-lein yn barod, felly gallwch edrych nawr i weld ble mae pob dim, gan gynnwys y pwyntiau dŵr.” Yn ogystal â’r ychwanegiadau bydd holl arlwy arferol yr Ŵyl yn llenwi’r dref ddydd Sadwrn, gan gynnwys stondinau bwyd, diod a chrefftau, cerddoriaeth fyw ac ardal gyda gweithgareddau ar gyfer plant a’u teuluoedd. Un fydd yn darparu diodydd oer i’r dorf eleni am y 3ydd tro yw Tom Owen o gwmni Swig. Meddai Tom, “Fel cwmni o Gaernarfon, ’da ni wastad yn edrych ymlaen at Gŵyl Fwyd Caernarfon. Mae’r ŵyl wedi tyfu i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf yng Nghymru a ’da ni, yn Swig, yn hynod ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith calad i wneud hyn yn bosib. Nid yn unig mae o fudd mawr i fusnesau Caernarfon ar y diwrnod ond mae’n hybu ymwybyddiaeth o’n tref yn yr hir dymor. Hefyd, mae’n helpu codi ymwybyddiaeth brand ni, fel masnachwyr yr ŵyl, ar gyfer digwyddiadau eraill gweddill yr haf. Â hi’n addo tywydd braf unwaith eto blwyddyn yma, byddwn ni lawr wrth y Cei gyda smwddis oer i gadw chi fynd drwy’r dydd.” Er bod arlwy mor helaeth ar y fwydlen, mae’r ŵyl yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i bawb. Amcangyfrif bod costau’r ŵyl bellach yn fwy na £72,000. “Mae gan bod yn ŵyl mor boblogaidd ei bris, a gyda chymaint o bobl yn dod rhaid talu costau mawr am yswiriant a mesurau diogelwch ac ati. Petai bob ymwelydd â’r ŵyl yn gallu rhoi £2 yr un, mi fyddai’n sicr yn talu amdani!” meddai Nici, wrth ein hatgoffa y bydd gwirfoddolwyr yn casglu rhoddion ar y diwrnod. Mae modd rhoi arian parod mewn bwcedi, neu roi’n uniongyrchol trwy PayPal ar y diwrnod, neu unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd