Blog Ffair Dolig 2019

10.12.2019


Roedd dros 25 o stondiau difyr iawn yno, ac roedd y stondinwyr ar y tu mewn wrth eu bodd efo’u gwerthiant. Roedd y lleoliad, yn Celtica, yn arbennig iawn, a hoffai criw’r Ffair ddiolch yn fawr iawn i Debbie Thomas, Rheolwr Ystâd Doc Fictoria, am ei chymorth parod wrth baratoi at y diwrnod. Soniodd nifer fawr o’r mynychwyr mor braf oedd gweld y lleoliad yn cael ei ddefnyddio eto – oni fyddai’n wych gweld datblygiad parhaus yn ymgartrefu yno! Cafodd y plant fôr o hwyl yn creu addurniadau Nadolig efo artistiaid Carn, ac roeddent yn hynod o ffodus bod Siôn Corn wedi llwyddo i berswadio Tŷ Siocled i fod mor hael â rhoi danteithion iddo i’w rhannu i’r plant. Roedd ogof Santa werth ei gweld – diolch i ymdrechion y gwirfoddolwyr a fuodd yn ei pharatoi brynhawn dydd Gwener. Roedd cyfle i bobl adael rhodd i’r Banc Bwyd yn y Ffair hefyd, a manteisiodd rhai ar y cyfle hwn – diolch yn fawr! Hoffai’r criw ddiolch hefyd i bawb a fynychodd y Ffair am eu cefnogaeth, a diolch arbennig i’r gwirfoddolwyr i gyd, ynghyd â’r Cyngor Tref a Galeri, am fenthig byrddau a chadeiriau.

Welwn ni chi yn Ffair flwyddyn nesa!

Ein digwyddiad codi pres nesaf ydi’r Noson Jin, yng ngofal genod JINSAN, yn Clwb Canol Dre Caernarfon, am 7:30 nos Sadwrn Ionawr 17. Bydd tocynnau ar gael yn fuan yn Palas Print.

Yn ôl i'r tudalen newyddion.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd