HYD 06, 2017 - CATRINSIRIOL
Nos Sadwrn, 7 Hydref, bydd y gantores Alys Williams ac Osian Huw Williams yn perfformio yn y cyntaf o ddigwyddiadau codi arian tuag at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018. Gyda thocynnau £10 yn cynnwys powlen o lobsgóws blasus, bydd y Noson Cawl a Chân yn cael ei chynnal yng Nghlwb Hwylio Caernarfon gan ddechrau perthynas newydd rhwng yr adeilad hanesyddol a’r ŵyl, sydd yn ehangu i leoliadau eraill Caernarfon ar 12 Mai, 2018. Yn ogystal â’r Noson Cawl a Chân, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi creu calendr cyffrous o ddigwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd gyfrannu arian tuag at yr ŵyl wrth fwynhau ar yr un pryd. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys; Cystadleuaeth Gyri, Trip Trên, Cinio Gala yn ogystal ag arlwy ar Noson Tân Gwyllt a’r Farchnad Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon sy’n cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 9 Rhagfyr 2017. Mae tocynnau i’r Noson Cawl a Chân ar gael o siop Palas Print, Caernarfon – 01286 674631. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau i ddod ewch i www.gwylfwydcaernarfon.cymru Yn ôl i'r tudalen newyddion. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd