Ers lansio ardal ‘Hwyl Dros yr Aber’, rydan ni wedi sicrhau fod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl i’r teulu cyfan, ac ar 10 Mai bydd Parc Coed Helen yn cael ei neilltuo’n gyfan gwbl i ddifyru teuluoedd, plant a phobl ifanc. Gobeithiwn y bydd yn cynnig gofod mymryn yn dawelach a llai prysur er mwyn dianc o fwrlwm yr Ŵyl ei hun.
Yn ôl Lois, sy’n byw yng Nghaernarfon ac sy’n fam i Brengain a Llewyn: “Er cymaint ydan ni’n mwynhau’r Ŵyl Fwyd bob blwyddyn, mae’n bach o waith efo plant: trio gwthio pram drwy’r holl filoedd o bobl sy’n dod yno, a trio cadw’r plant yn hapus hefyd. Mi ydan ni’n edrych ymlaen i dreulio ein hamser yn Dros yr Aber, a bydd stondinau bwyd a diod felly fydd neb yn colli allan!”
Mae’r lloc anifeiliaid yn hen ffefryn yn yr Ŵyl Fwyd bellach hefyd, ac mae’r babell sy’n llawn o ryfeddodau’r byd amaeth yn ei hôl eleni, a hynny ym Mharc Coed Helen. Diolch i Goleg Glynllifon, bydd arddansgofa cneifio, cyfle i ddeud helô wrth anifeiliaid fferm, sesiwn ymbincio cŵn, hen beiriannau fferm a llawer mwy i’w weld yn yr ardal arbennig hon.
Yn ogystal â hynny bydd gweithgareddau celf a chrefft, stondinau bwyd a diod, ac ymddangosiadau gan gymeriadau Cyw.
Felly, deuluoedd Caernarfon: os ydi bwrlwm yr Ŵyl Fwyd dwtsh yn ormod a’ch bod yn colli eich plant yn y dorf, heidiwch i Dros yr Aber am noddfa hwyliog.
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd