11/03/2020Darllennwch fwy am y noson yma. Tocynnau = £25 (+£1 tal prosessu arlein) Cogydd disglair yn arwain cinio elusennol Aiyeesha Barron-Clarke, sy’n enedigol o Fangor ac yn Bencampwr Sgiliau y Byd y DU, fydd y prif gogydd yn ystod cinio gala i godi arian i Ŵyl Fwyd Caernarfon ar yr 11 o Fawrth. Ar hyn o bryd, mae Aiyeesha yn gweithio fel Chef de Partie ym mwyty Catch 22 yn y Fali ac ar y noson bydd ganddi dim o 10 o fyfyrwyr arlwyo blwyddyn olaf Coleg Llandrillo Menai yn gweithio iddi. Bydd ganddi hefyd ei chyflogwr presennol, prif gogydd Neil Davies, yn gweithio iddi fel rhan o’r tîm. Aiyeesha fyddai’r gyntaf i gyfaddef nad oedd hi’n hapus yn yr ysgol, ac fe adawodd Ysgol Dyffryn Ogwen gyda dau TGAU yn 16 oed. Dywedodd Aiyeesha, “Wnaeth y system addysg bresennol jysd ddim gweithio i mi – mi oeddwn i eisiau bod yn greadigol a gwneud pethau efo nwylo a doedd eistedd mewn stafell ddosbarth trwy’r dydd ddim yn gweddu i mi. Wedyn yn 20 oed, yn byw gyda’m dau o blant, mi ges i fy mherswadio gan weithiwr cefnogi i fynd ar gwrs ‘Dewch i Goginio’, wedi ei drefnu gan Dechrau’n Deg. Cwrs i ddysgu mamau ifanc am faeth ac ati. “A dyna oedd dechrau fy siwrne ym myd arlwyo. Nes i wedyn ymuno gyda Academi Cogyddion yr Oystercatcher yn Sir Fôn, wedi ei sefydlu yn arbennig ar gyfer pobl o gefndiroedd di-freintiedig. Mi oedd yn gyfle anhygoel ac mi roddodd yr hyder i mi fynd amdani. Dwyt ti ddim yn clywed am gynlluniau fel hyn yn aml, ac fe newidiodd fy mywyd i. Ar ôl i mi ennill fy NVQ Lefel 1 yno gyda Choleg Menai, mi ges i swydd yn chwaer y cwmni, y White Eagle yn Rhoscloyn.” Ar ôl hynny, aeth Aiyeesha ymlaen i weithio mewn amryw o fwytai lleol, yn ceisio dod o hyd i le oedd yn gweddu i’w steil hi o goginio. Ac yna cafodd gyfle i weithio gyda’r Chef Neil Davies mewn bwyty teuluol newydd, Catch 22 yn y Fali. Ychwanegodd Aiyeesha, “Dwi’n awyddus iawn i ddefnyddio bwyd lleol, da a dwi wedi creu bwydlen ar gyfer cinio elusennol yr Ŵyl Fwyd sy’n cynnwys y cynnyrch Cymreig gorau gan gynnwys cig mochyn Oinc Oinc a thryffls gan gwmni o Frynbuga yn Sir Fynwy. Mi fydd gen i hefyd gregyn gleision o’r Fenai, madarch Eryri Cynan a kefir lleol ar y fwydlen.” Yn olaf, eglurodd Aiyeesha pwy oedd ei hysbrydoli. “Pan fydd pobl yn gofyn pwy ydw i yn edrych fyny iddyn nhw, dwi wastad yn dweud mod i yn cael fy ysbrydoliaeth trwy edrych am i lawr ar fy nau o blant – Aiden a Violet. Mae nhw yn anhygoel ac yn fy ysbrydoli bob dydd. Dwi eisiau dangos iddyn nhw fod unrhyw beth yn bosibl gydag uchelgais a digon o waith caled.” Bydd cinio elusennol yr Ŵyl Fwyd yn cael ei gynnal yng Ngholeg Menai (heb safle Ysgol Friars) ar yr 11 Mawrth am 7pm. Mae tocynnau yn £25 y pen ac ar gael o wefan Gŵyl Fwyd Caernarfon neu siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon. DIWEDD Am fwy o fanylion neu i drefnu cyfweliad gyda Aiyeesha cysylltwch gydag Angharad Prys ar 07900 982258 neu angharadprys@hotmail.com. Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd