Cystadleuaeth Goginio i Blant a Phobl Ifanc

08/10/2020



    	
			5 Mewn Pryd

5 Mewn Pryd

Wyt ti’n hoffi potsian yn y gegin a ffansi ennill offer coginio gwerth £100 a hamper gwerth £50 o gynnyrch o Gymru?

Os felly, mae gennym ni'r sialens i ti neu i unrhyw gogydd ifanc brŵd ti’n nabod! Mae dau gategori oedran sef Cynradd ac Uwchradd.

Dyma gyflwyno cystadleuaeth 5 Mewn Pryd Gŵyl Fwyd Caernarfon a Hybu Cig Cymru!

Y sialens yn syml:

  1. Coginio rysáit o dy ddewis di gan ddefnyddio Cig Oen neu Gig Eidion o Gymru.
  2. Defnyddio hyd at 5 cynhwysyn arall yn y rysáit.
  3. Wedyn, postia lun o'r plât gorffenedig a disgrifiad byr o’r rysáit ar dudalen Facebook Gŵyl Fwyd Caernarfon neu drwy ddilyn y ddolen yma  gan nodi dy enw ac os mai oedran cynradd neu uwchradd wyt ti. Mae croeso i ti rannu fideo gyda ni hefyd.

Y dyddiad cau ydi Tachwedd 16 a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 23 o Dachwedd.

I’r gad ac i’r gegin!

CO NI OFF 2019!

O dan neu wrth ymyl y llun isod, bysa fo'n gret gallu cynnwys 'Y wobr yw gwerth dros £100 o'r offer coginio yma a hamper gwerth £50 o gynnyrch o Gymru!

Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau.

© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd