14 Chwefror 2025Mae’r tocynnau wedi gwerthu allan. Diolch am eich cefnogaethMae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal cystadleuaeth cyrri er mwyn codi pres i gynnal yr Ŵyl yn 2025 (a fydd yn costio tua £60,000.) Mae’n noson hwyliog lle mae cystadleuwyr amatur yn dod â llond crochan o gyrri i Glwb Rygbi Caernarfon ac mae’r gynulleidfa’n blasu pob cyrri’n ddall ac yn eu marcio allan o 10. Bydd bar y Clwb Rygbi ar agor!
Bydd hyd at 10 cyrri i’w flasu ac mae’r marcio’n digwydd yn ddi-enw! Mae tocynnau'n £15 ac ar gael ar-lein drwy glicio'r botwm Paypal isod, neu yn Palas Print, Caernarfon. *Bydd rhestr o gynhwysion bob cyrri yn cael ei arddangos ar y noson, a'ch cyfrifoldeb chi yw adnabod unrhyw alergenau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â post@gwylfwydcaernarfon.cymru. Mae’r noson wastad yn hwyliog! Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau. |
© 2025 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd