20/07/2020Er fod Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi gorfod cael ei chanslo eleni, mae’r gwirfoddolwyr sydd yn trefnu’r ŵyl wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn rhannu ryseitiau cogyddion ac yn cefnogi cynllun ‘Porthi Pawb’ yng Nghaernarfon. Ond y penwythnos yma, nid bwyd fydd yn cael sylw – ond diodydd. Ac i fod yn fwy penodol, jin. Mi fydd yr ŵyl yn gweithio gyda Lowri a Ffion o gwmni ‘Jinsan’ i gynnal cystadleuaeth arbennig i greu coctel hafaidd, gyda jin fel y prif gynhwysyn. Y cyfan sydd angen ei wneud i gystadlu ydy:
Bydd y coctels yn cael eu beirniadu gan Lowri a Ffion, a’r enillydd yn cael hamper gin gwerth £100 wedi ei gefnogi gan gwmni jin ‘Afallon Mon’, ‘Treganna Gin’ a ‘Dinorwig Distillery’.
Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau. |
© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd