Cystadleuaeth Coctel Gin Nadoligaidd

3/12/20


Mae Gwyl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi cystadleuaeth coctel gyda gwobr o 3 potel o jin o Gymru.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy:

  • Creu coctel yn defnyddio gin a hyd at bump cynhwysyn
  • Anfon y rysait atom ni cyn 13 Rhagfyr trwy'r linc isod
  • Rhannu y rysait gyda llun neu fideo, gan dagio Gwyl Fwyd Caernarfon
  • Gallwch ei rannu dros Twitter, Instagram neu Facebook

Beirniaid y gystadleuaeth ydi Lowri Wynn a Ffion Emyr, ill dwy yn ferched sydd wrth eu boddau efo jin ac yn gefnogwyr selog o’r ŵyl. Yn 2018 roedd ganddynt stondin  goctels eu hunain sef Jinsan.  

Y dyddiad cau  i gyflwyno eich coctel ydi Rhagfyr 13eg  a bydd y feriniadaeth yn fyw ar gfyrif Instagram Gwyl Fwyd Caernarfon ar nos Sul 20fed, gydag uchafbwyntiau y sesiwn blasu ar sianeli youtube ac AM yr ŵyl erbyn y 23ain. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhywun dros 18 oed ac mae’r ffurflen gystadlu i’w gael wrth glicio fan hyn  https://forms.gle/p88c6yVkpddB6YHQ6

 Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ddiolchgar o fod yn derbyn cymorth gan Cywain er mwyn cynnal y gystadleuaeth hon yn ogystal â nifer o’r gweithgareddau eraill sydd wedi eu cynnal gan y pwyllgor o wirfoddolwyr, ac mae pawb yn gobeithio y daw 2021 ag amgylchiadau fydd yn galluogi i’r ŵyl gael ei chynnal yn ddiogel unwaith eto. 


    	
			Einir Owen o Garndolbenmaen enillodd y gystadleuaeth coctel hafaidd gyda'i choctel 'Melys Moes Mwyar'

Einir Owen o Garndolbenmaen enillodd y gystadleuaeth coctel hafaidd gyda'i choctel 'Melys Moes Mwyar'


    	
			Beirniaid y gystadleuaeth, Ffion a Lowri

Beirniaid y gystadleuaeth, Ffion a Lowri

Yn ôl i'r tudalen digwyddiadau.

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd