Stondinwyr

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael eich croesawu i’r ŵyl ddydd Sadwrn Mai 13 2023.

Map a Rhaglen


Stallholders Map 2023

Lawrlwyth'r map a rhaglen yma (pdf)

Ar Gyfer Stondinwyr

Dylech gyrraedd i osod eich stondin o 7:00a.m. ymlaen ddydd Sadwrn, Mai 13 2023. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â defnyddio Sat Nav i gyrraedd eich lleoliad – rydym wedi creu llwybrau hwylus i geisio osgoi tagfeydd ar strydoedd cul y dre!

Os hoffech chi osod eich stondin ar y nos Wener, mae croeso i chi wneud hynny – mae gennym swyddogion diogelwch ar ddyletswydd drwy’r nos. Ond gofynnwn yn garedig i chi adael i ni wybod ymlaen llaw.
Os ydych chi wedi archebu Stondin yr Wyl, mae cownter yn rhan o’r stondin. Os yw’n well gennych chi beidio â chael cownter, gadewch i ni wybod ymlaen llaw.

 

Y MAES – LL55 2NF
Dewch i mewn ar hyd yr A487 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Canol y Dref. Dilynwch y system un-ffordd heibio’r multi-storey, gan basio siop/caffi Ambiwlans Awyr ar y dde i chi, a throi i’r chwith wrth Gaffi Costa. Bydd swyddog traffig yno’n disgwyl amdanoch chi.

 

PROM 1, PROM 2, PROM 3, PROM 4 A’R MARINA – LL55 1SH
O gyfeiriad Bangor, ar hyd yr A487 tan gylchfan yr Alex, troi i’r dde heibio Morrisons, a dilyn y ffordd heibio Galeri. Bydd stiward ar y gylchfan bach i’ch cyfeirio ymlaen.
O gyfeiriad Porthmadog, ar hyd yr A487 tan gylchfan yr Alex, troi i’r chwith heibio Morrisons, a dilyn y ffordd heibio Galeri. Bydd stiward ar y gylchfan bach i’ch cyfeirio ymlaen

 

TYN CEI, CEI LLECHI, PEN DEITSH A STRYD Y CASTELL
O gyfeiriad Bangor, ar hyd yr A487 tan gylchfan Ysbyty Eryri, troi i’r dde lawr Ffordd Santes Helen, a dilyn y ffordd heibio Travis Perkins a Gorsaf Rheilffordd yr Ucheldir. Bydd stiward yno i’ch cyfeirio ymlaen.
O gyfeiriad Porthmadog, ar hyd yr A487 tan gylchfan Ysbyty Eryri, troi i’r chwith lawr Ffordd Santes Helen, a dilyn y ffordd heibio Travis Perkins a Gorsaf Rheilffordd yr Ucheldir. Bydd stiward yno i’ch cyfeirio ymlaen.

 

STRYD Y JEL (a Neuadd y Farchnad)
Dewch i mewn ar hyd yr A487 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Canol y Dref. Dilynwch y system un-ffordd heibio’r multi-storey, gan basio siop/caffi Ambiwlans Awyr ar y dde i chi, a throi i’r dde wrth Gaffi Costa. Troi i'r dde yn Costa a mynd i lawr High Street yn Turf Square. Stryd y Jel ydi’r 4ydd stryd ar y chwith.

 

Bydd stiward yr ŵyl wedyn yn eich cyfeirio at leoliad eich stondin / gofod ac yn rhoi tocyn parcio i chi ar gyfer un cerbyd. Ni chewch chi gadw cerbyd wrth eich stondin/uned: RHAID parcio’ch cerbydau yn y man dynodedig cyn 9am. Mae meysydd parcio talu ac arddangos ar gael ar gyfer unrhyw gerbydau ychwanegol sydd gennych chi. Rydym yn disgwyl i’r stondinau fod yn barod i fasnachu erbyn 10.00. Rhaid i chi ddangos eich sticer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a rhestr alergenau, ar eich stondin - os yn berthnasol.

 

Nodwch mai parcio ar eich risg eich hun ydych chi.

Cerbydau mawr/faniau tal (2m + o uchder): Diolch i Scottish Power cewch barcio am ddim yn eu safle ar Ffordd Santes Helen, LL55 2YD.
Ceir/faniau bach: Maes parcio aml-lawr staff Cyngor Gwynedd, Ffordd Balaclava, LL55 1SQ. Rydym yn pwyso arnoch chi i ddefnyddio’r meysydd parcio hyn, er mwyn rhyddhau llefydd parcio prin yn y dre – ac maen nhw am ddim! Bydd stiwardiaid yn y ddau leoliad o 6:30 am ymlaen.

Bydd nifer o strydoedd y dref wedi cau rhwng 8 am a 6 pm. Cewch gychwyn dadosod unrhyw bryd ar ôl 5pm ond ni fydd modd dod â cherbyd at eich stondin nes y bydd y swyddgogion diogelwch yn caniatau i chi symud.

Rydym yn darparu cyflenwad dŵr yfadwy ar eich cyfer yn y mannau sydd wedi nodi.
Nid oes hawl gan neb i wagio dŵr budr i lawr draeniau ffordd.

Chi sy’n gyfrifol am gludo unrhyw sbwriel o’ch uned ar ddiwedd y dydd. Mae biniau ail-gylchu a biniau bwyd ychwanegol yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd ar gyfer y cyhoedd yn unig. Mae gan yr Ŵyl bolisi lleihau y defnydd o blastig a gofynnwn i chi barchu hynny. Bydd y bariau sydd wedi archebu gwydrau plastig aml-ddefnydd ganddon ni yn eu derbyn yn y bore a byddwn yn casglu y rhai sy’n weddill ar ddiwedd y dydd.

Bydd stiwardiaid mewn siacedi llachar ar gael drwy’r dydd mewn gofal o’r stondinau a’r digwyddiadau. Bydd Swyddfa’r Ŵyl yn Pendeitsh ble fydd aelodau o’r pwyllgor trefnu yn hapus i ateb cwestiynau. Gan edrych ymlaen at eich gweld yn yr Ŵyl a gobeithio y cawn dywydd ffafriol ac ymwelwyr lu! Byddai’n dda iawn pe baech yn cymryd unrhyw gyfle i hysbysebu’r ffaith eich bod yn dod i Ŵyl Fwyd Caernarfon e.e. ar Twitter, Facebook ac ymysg eich cydnabod.

 

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd