Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal cystadleuaeth cyrri er mwyn codi pres i gynnal yr Ŵyl yn 2027 (a fydd yn costio tua £60,000.) Mae’n noson hwyliog lle mae cystadleuwyr amatur yn dod â llond crochan o gyrri i Glwb Rygbi Caernarfon ac mae’r gynulleidfa’n blasu pob cyrri’n ddall ac yn eu marcio allan o 10. Bydd bar y Clwb Rygbi ar agor!
Bydd hyd at 10 cyrri i’w flasu ac mae’r marcio’n digwydd yn ddi-enw! Llenwch y ffurflen hon os am gymryd rhan.
© 2026 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd