Cyfleoedd Gwirfoddoli

Cyfleoedd Gwirfoddoli


gorymdaith-carnifal-cfon

Mae’r ŵyl fwyd erbyn hyn wedi sefydlu fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i'r dref gyda bron i 30,000 o ymwelwyr yn dod i flasu bwydydd lleol a mwynhau’r awyrgylch. Eisiau bod yn rhan o’r bwrlwm? Mae’r trefnwyr yn galw am bobl o bob oed i wirfoddoli.

Gwirfoddoli ymlaen llaw: Rydym yn croesawu pobl sydd yn awyddus i ymuno gyda’n grwpiau i helpu i drefnu’r ŵyl. Os oes ganddoch chi sgiliau mewn meysydd fel cyfathrebu, codi arian neu sgiliau technegol, cysylltwch.

Gwirfoddoli ar y diwrnod: Er mwyn cynnal digwyddiad llwyddiannus mae angen dros 100 o bobl ar gyfer stiwardio, dosbarthu rhaglenni, cyfeirio pobl, gwneud holiaduron, casglu sbwriel, a chasglu rhoddion mewn bwcedi. Os hoffech chi gyfrannu awr neu ddwy o’ch diwrnod i fod yn rhan o’r ŵyl lwyddiannus, ebostiwch gwirfoddoli@gwylfwydcaernarfon.cymru

© 2023 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd