Newyddion 2015

Holiadur Gwyl Fwyd 2024

Holiadur Gwyl Fwyd 2024


21/05/24

Fuoch chi yn Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024? Rydan ni isio clywed gynnoch chi.

darllen mwy

Mwy nag erioed ar fwydlen Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024

Mwy nag erioed ar fwydlen Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024


29ain o Ebrill 2024

Ar ddydd Sadwrn 11 Mai bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd i’r dref am y seithfed tro, gyda mwy o arlwy nag erioed o’r blaen.

darllen mwy

“Mae’n gyfle am jangyl bach!”

“Mae’n gyfle am jangyl bach!”


19/04/2024

darllen mwy

Cystadleuaeth Cyrri: galw am gystadleuwyr

Cystadleuaeth Cyrri: galw am gystadleuwyr


Chwefror 9fed 2024

Cystadleuaeth Cyrri: galw am gystadleuwyr

Dipyn o gwc?

darllen mwy

Un farchnad fawr yn Dre!

Un farchnad fawr yn Dre!


18fed o Dachwedd, 2023

Mudiadau’n dod at ei gilydd i ddathlu Dolig

darllen mwy

Oktoberfest yn dod i Gaernarfon!

Oktoberfest yn dod i Gaernarfon!


14 Hydref, 2023

The German beer fest will be given a Welsh twist

darllen mwy

Marchnad Nadolig - yn galw am stondinau

Marchnad Nadolig - yn galw am stondinau


Tachwedd 18

Eleni, bydd Yr Hen Lys yn ogystal â safle Gorsaf Rheilffordd Eryri yn gartref i farchnad Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon a hynny ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed, yr un diwrnod â marchnad Nadolig Galeri. Caernarfon fydd y lle...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd 2024

Gŵyl Fwyd 2024


19.05.23

11/05/2024! Rhowch o’n eich dyddiadur! Neu fel nodyn atgoffa ar eich ffôn!

darllen mwy

Gwyl Fwyd 2023

Gwyl Fwyd 2023


13.05.23

10:00-17:00

Stondinau Bwyd a Chrefft, Bwydydd Stryd a Bariau, Cerddoriaeth Byw, Gweithgareddau Plant,

Mynediad am Ddim!

darllen mwy

MIS I FYND

MIS I FYND


14.04.2022

Gyda mis i fynd tan y byddwn yn croesawu pawb yn ôl i’r ŵyl ar ôl dwy flynedd anodd mae’r pwyllgor yn falch iawn o fedru rhannu rhaglen y diwrnod sydd yn cynnwys map y stondinau ac amserlenni y llwyfannau adloniant.

darllen mwy

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD GWELL!

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD GWELL!


01.12.2021

Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dymuno Nadolig Llawen i’w holl gefnogwyr wrth gyhoeddi’r cyfle i gofrestru am stondin yng Ngŵyl 2022.

darllen mwy

Marchnad Nadolig Cei Llechi 2021

Marchnad Nadolig Cei Llechi 2021


20/10/21

Eleni rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda Galeri a Gorsaf Rheilffordd Eryri i gynnal Marchnad Nadolig dros benwythnos Tachwedd 27-28 yn Cei Llechi ac adeilad yr Orsaf.

darllen mwy

Cyn berchennog Les Gallois yn dod â digwyddiad blasu gwin unigryw i Gaernarfon

Cyn berchennog Les Gallois yn dod â digwyddiad blasu gwin unigryw i Gaernarfon


06 Medi 2021

Nos Sadwrn, 18 Medi bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon a chyn berchennog Les Gallois yng Nghaerdydd, Francis Dupuy, yn cynnal digwyddiad blasu gwin unigryw yn ‘Yr Aelwyd’ yng Nghaernarfon.

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon ddim am gael ei chynnal yn 2021

Gŵyl Fwyd Caernarfon ddim am gael ei chynnal yn 2021


20/2/2021

Gyda thristwch rydym yn cyhoeddi na fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yn 2021. Er bod y sefyllfa bresennol gyda’r feirws i’w gweld yn gwella, a chynllun brechu Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddo’n dda iawn, nid...

darllen mwy

Cystadleuaeth Coctel Gin Nadoligaidd

Cystadleuaeth Coctel Gin Nadoligaidd


3/12/20

Fel rhan o’r digwyddiadau digidol sydd yn cael eu trefnu i lenwi’r bwlch a grewyd wrth ganslo gŵyl eleni, mae Gwyl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi cystadleuaeth coctel gyda gwobr o 3 potel o jin o Gymru. Mae gofyn i...

darllen mwy

Cystadleuaeth Goginio i Blant a Phobl Ifanc

Cystadleuaeth Goginio i Blant a Phobl Ifanc


08/10/2020

Lansio cystadleuaeth newydd 5 Mewn Pryd Gŵyl Fwyd Caernarfon mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru. Wyt ti’n hoffi potsian yn y gegin a ffansi ennill offer coginio gwerth £100 a hamper gwerth £50 o...

darllen mwy

Nerys Howells yn coginio 3 rysait o'i llyfr newydd

Nerys Howells yn coginio 3 rysait o'i llyfr newydd


29.07.20

Yn y fideo yma, bydd Nerys Howells yn coginio 3 rysait i ni o’i llyfr newydd fydd allan ar ddiwedd y flwyddyn.

darllen mwy

Prosiect Porthi Pawb yn helpu pobl Caernarfon yn ystod y pandemig

Prosiect Porthi Pawb yn helpu pobl Caernarfon yn ystod y pandemig


15.07.20

Ar ddechrau’r pandemig, roedd Chris Summers, Prif Gogydd yr Oystercatcher yn Rhosneigr

darllen mwy

Chris Summers yn coginio’r byrgyr a’r sglodion llwythog gorau o’i gartref

Chris Summers yn coginio’r byrgyr a’r sglodion llwythog gorau o’i gartref


15.07.20

Dyma fideo arall i chi sef fideo gan Chris Summers, Prif Gogydd yr Oystercatcher

darllen mwy

Lisa Jên o 9 Bach yn coginio gwledd Groegaidd yn ei chartref

Lisa Jên o 9 Bach yn coginio gwledd Groegaidd yn ei chartref


08.07.20

Mae’r tîm wedi bod yn brysur yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau digidol dros yr wythnosau diwethaf gyda mwy ar y gweill yn fuan. Rydym wedi derbyn fideo hyfryd gan Lisa Jên o 9 Bach yn coginio gwledd Groegaidd yn ei...

darllen mwy

Yr Wyl yn paratoi arlwy o ddigwyddiadau digidol

Yr Wyl yn paratoi arlwy o ddigwyddiadau digidol


12.06.20

Er gorfod gohirio Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020 tan 2021 oherwydd feirws Corona Covid-19, mae’r pwyllgor yn dal i gyfarfod yn rheolaidd (dros y we) ac wedi bod yn brysur gyda bob math o weithgareddau gwahanol.

darllen mwy

GOHIRIO GŴYL FWYD CAERNARFON  2020

GOHIRIO GŴYL FWYD CAERNARFON 2020


18/03/2020

Yn sgil sefyllfa bresennol gyda’r feirws Covid-19, ac er mwyn atal ymlediad, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio a chynnal gŵyl 2020.

darllen mwy

Noson Cyri

Noson Cyri


06/03/20

Ddiwedd mis Chwefror, gyda storm Jorge ar ein gwartha, ymlwybrodd 10 cogydd gyda sosban llawn cyri draw i neuadd gymunedol Feed My Lambs yng Nghaernarfon.

darllen mwy

Amser am Gin

Amser am Gin


21/01/2020

Gyda 210 shot o gin wedi eu tollti, 114 tamaid o leim wedi ei dorri, 60 potel o donic wedi eu hoeri a 70 coctel croeso wedi eu paratoi, roeddem yn barod ar gyfer noson yng nghwmni Lowri a Ffion o gwmni Jinsan yn blasu...

darllen mwy

Blog Ffair Dolig 2019

Blog Ffair Dolig 2019


10.12.2019

Er gwaetha’r tywydd garw, cafwyd Ffair Nadolig lwyddiannus iawn yn Celtica, dydd Sadwrn Rhagfyr 7fed.

darllen mwy

Trowch eich Calendr Adfent o Chwith i gefnogi Banc bwyd Arfon

Trowch eich Calendr Adfent o Chwith i gefnogi Banc bwyd Arfon


29/11/2019

Mae Banc bwyd Arfon, sy’n rhan o rwydwaith genedlaethol Trussell Trust sy’n gweithio i drechu tlodi a diffyg bwyd, yn galw ar drigolion Arfon i ymuno gyda nhw yn troi y calendr adfent o chwith eleni.

darllen mwy

Stondin fwyd noson tân gwyllt yn mynd o nerth i nerth - Marged Rhys

Stondin fwyd noson tân gwyllt yn mynd o nerth i nerth - Marged Rhys


06/11/2019

Cynhaliodd griw Gŵyl Fwyd Caernarfon stondin fwyd a diod fel rhan o arddangosfa tân gwyllt y dref ar Dachwedd y 5ed er mwyn codi arian ar gyfer yr ŵyl fwyd 2020. Dyma’r 4ydd tro i’r ŵyl drefnu stondin fel rhan o’r...

darllen mwy

Diwrnod Braf yn Waunfawr i Godi Arian - Angharad Prys

Diwrnod Braf yn Waunfawr i Godi Arian - Angharad Prys


24/09/19

Gyda’r awyr yn las a’r awel gynnes, ymlwybrodd dros 70 ohonom am Waunfawr ar y trên bach. Ar ôl pasio Fron Goch, y caeau llawn pridd ble byddwn yn gwibio heibio i Gaernarfon ar y ffordd newydd a lot o gaeau gwyrdd, dyma...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd eisiau cefnogi busnesau’r dref

Gŵyl Fwyd eisiau cefnogi busnesau’r dref


27/06/2019

Wrth i griw Gŵyl Fwyd Caernarfon baratoi am ŵyl 2020 cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal nos Fercher, 26ain o Fehefin er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn a denu pobl i fod yn rhan o’r tîm o drefnwyr...

darllen mwy

Rydym Eisiau Eich Barn!

Rydym Eisiau Eich Barn!


12/05/2019

Beth oedd eich hoff beth am yr wyl eleni? Gadewch i ni wybod drwy lenwi’r holiadur.

darllen mwy

Rhaglen a Map 2019

Rhaglen a Map 2019


14/04/2019

Gyda llai na mis i fynd - dyma’r holl wybodaeth am beth sydd ymlaen yn ystod ein digwyddiad mawreddog!

darllen mwy

Gala'n codi dros fil

Gala'n codi dros fil


Mawrth 29, 2019 - SOPHIE

Unwaith eto eleni cafwyd noson gwerth chweil yn ein noson Gala. Gyda’r tywydd ar ein hochor eleni, bu’r noson yn lwyddiant wrth i’r tocynnau i gyd werthu! Ein cogyddes gwâdd oedd y cyn-ddisgybl o Goleg Menai sydd bellach...

darllen mwy

CYRI, CWRW A CHWMNI DA – BLOG

CYRI, CWRW A CHWMNI DA – BLOG


Mawrth 18, 2019 - MARGED

Wel sôn am noson ddifyr ym mhedwaredd gystadleuaeth cyri Gŵyl Fwyd Caernarfon, sydd wedi datblygu’n ddigwyddiad poblogaidd iawn. Syniad y noson ydi bod 10 o bobl leol sy’n hoffi coginio yn creu cyri i 80 o bobl, ac yna’r...

darllen mwy

HANES Y NOSON GIN - BLOG

HANES Y NOSON GIN - BLOG


CHWEFROR 01, 2019 - MARGED

Am y tro cyntaf erioed yn hanes Gŵyl Fwyd Caernarfon, cynhaliwyd ein digwyddiad blasu jin cyntaf ar noson Santes Dwynwen eleni. Braf oedd gweld Tŷ Glyndŵr dan ei sang, a’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu ers wythnosau.

darllen mwy

MARCHNAD NADOLIG 2018

MARCHNAD NADOLIG 2018


RHAGFYR 11, 2018 - CATRINSIRIOL

Er gwaetha’r glaw, roedd ysbryd y dathlu yn fyw ac yn iach yn y farchnad Nadolig yn Copa yng Nghaernarfon dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr er mwyn codi arian at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019. Daeth amrywiaeth o stondinwyr yno i werthu...

darllen mwy

GŴYL FWYD CAERNARFON YN DERBYN £3,900 GYNLLUN GRANT CYMUNEDOL TESCO

GŴYL FWYD CAERNARFON YN DERBYN £3,900 GYNLLUN GRANT CYMUNEDOL TESCO


RHAGFYR 06, 2018 - MARGED

Mae trefnwyr Gwyl Fwyd Caernarfon yn falch o gyhoeddi bod yr wyl wedi derbyn £3,900 o gynllun grant cymunedol Tesco ‘Bags of Help’. Mae cynllun ‘Bags of Help’ yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag elusen amgylcheddol...

darllen mwy

CO NI OFF 2019!

CO NI OFF 2019!


TACHWEDD 05, 2018 - SOPHIE

Mae’r dasg o godi arian at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019 wedi dechrau! Aethom ati unwaith eto eleni ar noson tân gwyllt i godi arian at ŵyl 2019 drwy werthu lluniaeth i wylwyr bywiog (ac oer!) yr arddangosfa tân gwyllt...

darllen mwy

CYHOEDDI DIGWYDDIADAU GŴYL FWYD CAERNARFON

CYHOEDDI DIGWYDDIADAU GŴYL FWYD CAERNARFON


MED 15, 2018 - MARGED

Er mwyn cynnal yr ŵyl am ddim ym mis Mai, mae’r pwyllgor wedi trefnu amserlen o ddigwyddiadau bwyd a diod i godi hyd at £20,000. Digwyddiad cyntaf yr ymdrechion godi arian yw’r Gystadleuaeth Pryd Powlen am 7.30pm, nos...

darllen mwy

PLEDLEISIWCH AM YR ŴYL AM GRANT ‘BAGS OF HELP’ TESCO

PLEDLEISIWCH AM YR ŴYL AM GRANT ‘BAGS OF HELP’ TESCO


MED 03, 2018 - MARGED

Mae pleidleisio bellach AR AGOR ar gyfer cynllun grant ‘Bags of Help’ Tesco eleni. Rydym wedi bod ddigon lwcus i gyrraedd y bleidlais gyhoeddus a gyda’ch help chi, gallem ennill hyd at £4,000 at ŵyl 2019.

darllen mwy

GFC 2018 - Eich barn

GFC 2018 - Eich barn


MAI 17, 2018 - MARGED

Diolch i waith caled yr holl wirfoddolwyr, cynnyrch y stondinwyr, adloniant y perfformwyr ac i chi’r cyhoedd, roedd trydedd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn llwyddiant! Dyma gyfle i chi fwrw eich barn am yr ŵyl isod er mwyn i ni...

darllen mwy

DIOLCH am ŵyl arall bendiblasus!

DIOLCH am ŵyl arall bendiblasus!


MAI 14, 2018 - SOPHIE

Wel, ma’r dre bellach yn ôl i’w ffurf arferol efo bob bariyr a bwrdd picnic nôl yn eu lle a bob tent wedi mynd… Dyna be oedd clamp o benwythnos! Hoffai Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch o waelod calon i chi gyd am...

darllen mwy

Cyhoeddi Rhaglen a Mapiau Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018!

Cyhoeddi Rhaglen a Mapiau Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018!


MAI 03, 2018 - SOPHIE

Gyda ‘chydig dros wythnos i fynd tan y digwyddiad mawr, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn falch iawn o allu cyhoeddi’r rhaglen a’r mapiau terfynol! Yn y rhaglen, gallech ddod o hyd i’r holl wybodaeth perthnasol am y...

darllen mwy

Cyhoeddi Perfformwyr Llwyfan y Docfeistr

Cyhoeddi Perfformwyr Llwyfan y Docfeistr


EBR 12, 2018 - MARGED

Gyda dim ond mis i fynd nes yr Ŵyl Fwyd mae’n bryd cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yn un o ardaloedd newydd yr ŵyl, Llwyfan y Docfeistr, Doc Fictoria: Y Brodyr Magee Sera Beth Celyn Geraint Lovgreen a’r Enw Da Band Pres...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon ar ei newydd wedd!

Gŵyl Fwyd Caernarfon ar ei newydd wedd!


EBR 04, 2018 - SOPHIE

Os ddarllenoch chi’n datganiad blaenorol, neu os ydych chi wedi gweld rai o bosteri’r ŵyl o amgylch y dre efallai, fe wyddwch ein bod yn ehangu eleni i leoliadau newydd a chyffrous iawn!

Yn unol â gŵyl 2016 ac ’17,...

darllen mwy

DYDDIAD NEWYDD Cinio Gala – 17 Ebrill 2018

DYDDIAD NEWYDD Cinio Gala – 17 Ebrill 2018


MAW 31, 2018 - SOPHIE

Bydd y rhai ohonoch oedd wedi prynu tocyn i’n Gala Fwyd yng Ngholeg Menai ym mis Mawrth, a’r rhai ohonoch oedd yn methu a gwneud y dyddiad hwnnw, yn falch o glywed ein bod wedi llwyddo i ail-drefnu. Rydym yn hapus iawn i...

darllen mwy

Hywel Griffith yn llenwi boliau…

Hywel Griffith yn llenwi boliau…


MAW 26, 2018 - SOPHIE

Eleni, Hywel Griffith oedd ein prif gogydd ar gyfer y Gala Fwyd flynyddol yng Ngholeg Menai. Mae Hywel wedi ennill sawl gwobr am ei ddawn yn y gegin ac erbyn hyn, ef yw prif gogydd bwyty Beach House ym Mae Oxwich. I...

darllen mwy

Noson hwyliog yn y Clwb Hwylio!

Noson hwyliog yn y Clwb Hwylio!


MAW 23, 2018 - SOPHIE

Er gwaetha’r eira a’r oerni nos Sadwrn, 18fed o Fawrth, brwydrodd griw brwd o gefnogwyr yr ŵyl i Glwb Hwylio Caernarfon i fwynhau noson Cawl a Chân. Yn dilyn llwyddiant tîm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yn gynharach yn y...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn galw am wirfoddolwyr o bob oed

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn galw am wirfoddolwyr o bob oed


CHW 20, 2018 - CATRINSIRIOL

Mae’r ŵyl fwyd yn y dref gyfagos wedi troi’n uchafbwynt blynyddol i nifer gyda dros 15,000 o ymwelwyr yn heidio i’r dref o bell a chyfagos i ddathlu bwydydd blasus a chynnyrch lleol. Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r...

darllen mwy

Mike Downey yn Frenin y Cyri 2018!

Mike Downey yn Frenin y Cyri 2018!


CHW 10, 2018 - SOPHIE

Nos Wener, cafwyd noson llawn sbeis ac amrywiol flasau wrth i’r Cofis fynd benben am deitl Cyri Gorau Caernarfon 2018 am y trydydd tro. Ar y 9fed o Chwefror, daeth 10 cystadleuydd a’u cyris draw i ‘Feed My Lambs’ lle...

darllen mwy

Cofis yn Cystadlu am y Cyri Gorau

Cofis yn Cystadlu am y Cyri Gorau


ION 29, 2018 - CATRINSIRIOL

Mae Cystadleuaeth Cyri Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ar Nos Wener, Chwefror 9fed, gydag 8 cogydd amatur yn mynd benben i dderbyn gwobr o £50 a’r teitl ‘Cyri Gorau Caernarfon’. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad codi...

darllen mwy

Gweithdy Sushi gyda Phil McGrath

Gweithdy Sushi gyda Phil McGrath


ION 28, 2018 - SOPHIE

Ar y 25ain o Ionawr 2018, cynhaliodd Phil McGrath (un o aelodau teyrngar ein grŵp!) weithdy sushi wrth iddo drawsnewid Caffi Te a Cofi i fwyty Siapaneaidd. Bu Phil ac Ifan wrthi’n brysur yn paratoi 4kg o reis, yn ogystal...

darllen mwy

GWEITHDY SUSHI (25.01.2018)

GWEITHDY SUSHI (25.01.2018)


ION 09, 2018 - CATRINSIRIOL

GWEITHDY SUSHI – DEWCH AM NOSON DDIFYR ARALL YN CODI ARIAN I ŴYL FWYD CAERNARFON. Nos Iau, 25 Ionawr, bydd aelod o Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon, Phil McGrath yn camu ‘mlaen i’ch dysgu chi sut i baratoi sushi!

darllen mwy

Ffair Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon

Ffair Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon


RHA 12, 2017 - SOPHIE

Ddydd Sadwrn, y 9fed o Ragfyr 2017, daeth grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon a naws Nadoligaidd Narnia-idd i Stryd y Plas drwy gynnal Ffair Nadolig yn Neuadd y Farchnad. Cafwyd amrywiaeth o stondinau’n hybu cynnyrch artisan a...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig y dref

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig y dref


TACH 29, 2017 - CATRINSIRIOL

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9fed, 2017 rhwng 10:00 a 16:00. Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi mynd ati eto i...

darllen mwy

Bwydo gwylwyr tân gwyllt Caernarfon

Bwydo gwylwyr tân gwyllt Caernarfon


TACH 07, 2017 - SOPHIE

Nos Sadwrn, y 4ydd o Dachwedd 2017, bu’r grŵp yn brysur yn gwerthu lluniaeth i’r holl wylwyr brwd oedd wedi heidio i wylio’r arddangosfa tân gwyllt anhygoel a drefnir yn flynyddol gan Y Llewod ochr draw i Bont yr Aber. ...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn darparu lluniaeth Noson Tân Gwyllt

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn darparu lluniaeth Noson Tân Gwyllt


HYD 31, 2017 - CATRINSIRIOL

Bydd gwirfoddolwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn gwerthu bwyd poeth a diodydd ar y Promenâd yng Nghaernarfon yn ystod Arddangosfa Tân Gwyllt y dref ar Dachwedd 4ydd, 2017 rhwng 18:00 a 20:00. Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae...

darllen mwy

‘Cawl a Chân’ gydag Alys Williams ac Osian Williams

‘Cawl a Chân’ gydag Alys Williams ac Osian Williams


HYD 09, 2017 - SOPHIE

‘Cawl a Chân’ yng Nghlwb Hwylio Caernarfon oedd digwyddiad cyntaf Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018. Gyda chost o £25,000 i gynnal yr Ŵyl, mae digwyddiadau codi arian yn angenrheidiol i gefnogi’r trefniadau. Gan fod lleoliad yr...

darllen mwy

Alys Williams yn agor calendr ddigwyddiadau codi arian Gŵyl Fwyd Caernarfon.

Alys Williams yn agor calendr ddigwyddiadau codi arian Gŵyl Fwyd Caernarfon.


HYD 06, 2017 - CATRINSIRIOL

Nos Sadwrn, 7 Hydref, bydd y gantores Alys Williams ac Osian Huw Williams yn perfformio yn y cyntaf o ddigwyddiadau codi arian tuag at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018. Gyda thocynnau £10 yn cynnwys powlen o lobsgóws blasus, bydd...

darllen mwy

GŴYL FWYD CAERNARFON YN EHANGU YN 2018

GŴYL FWYD CAERNARFON YN EHANGU YN 2018


MED 13, 2017 - CATRINSIRIOL

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal am y drydedd tro ar Fai 12fed, 2018 ar leoliadau newydd yng Nghaernarfon. Mae gwaith ar ddatblygu ardal Cei Llechi a Lon Santes Helen yn 2018 yn golygu na fydd yr ardal hon ar...

darllen mwy

DATHLU NATUR A CHWEDLAU AR DRÊN STÊM I GODI ARIAN AT ŴYL FWYD CAERNARFON

DATHLU NATUR A CHWEDLAU AR DRÊN STÊM I GODI ARIAN AT ŴYL FWYD CAERNARFON


EBR 18, 2017 - CATRINSIRIOL

Ar Fai 6ed bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon meddiannu dau gerbyd ar drên stêm Rheilffordd Eryri i godi arian i’r Ŵyl Fwyd fydd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar Fai 13eg. Gyda’r elw yn mynd tuag at gynnal yr ŵyl fwyd am...

darllen mwy

TEITHIO’N WYRDD I’R ŴYL FWYD

TEITHIO’N WYRDD I’R ŴYL FWYD


MAI 08, 2017 - CATRINSIRIOL

Ar ddydd Sadwrn, Mai 13eg bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar faes Caernarfon gyda opsiynau i deithio’n gynaliadwy yno ar feic, bws a thren. Mae’r ŵyl, sydd am ddim i’r cyhoedd, yn dathlu cogyddion,...

darllen mwy

Galw am Stondinwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon 2017

Galw am Stondinwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon 2017


RHA 30, 2016 - CATRINSIRIOL

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn agor ceisiadau ar gyfer cynnal stondin yn yr ŵyl a fydd yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon ar Fai 13eg, 2017. Daeth oddeutu 10,000 o ymwelwyr i’r dref yn ystod yr ŵyl yn 2016 ar...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn Cyhoeddi Llyfr Coginio

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn Cyhoeddi Llyfr Coginio


RHA 29, 2016 - CATRINSIRIOL

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cyhoeddi llyfr ryseitiau ‘Coginio efo’r Cofis’ fel rhan o’u hymgyrch godi arian ar gyfer yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal ar Fai 13eg, 2017. Yn cynnwys ryseitiau gan bobl y dre, cogyddion enwog a...

darllen mwy

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn y Noson Tân Gwyllt

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn y Noson Tân Gwyllt


RHA 15, 2016 - CATRINSIRIOL

Hoffai trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch i fynychwyr Noson Tân Gwyllt Caernarfon nos Sadwrn 5ed o Dachwedd am ein helpu i godi arian at Ŵyl Fwyd 2017 drwy brynu bwyd a diod o’r fan. Wedi ei drefnu gan Lewod Caernarfon...

darllen mwy

DIOLCH

DIOLCH


MAI 15, 2016 - NICIBEECH

Diolch i bawb a ddaeth i’r ŵyl a’i gwneud hi mor arbennig. Cafwyd hwyl a haul drwy’r dydd ddydd Sadwrn yn dilyn noson o chwerthin llond ein boliau yn Galeri nos Wener.

darllen mwy

Y rhaglen ar gael!

Y rhaglen ar gael!


EBR 30, 2016 - NICIBEECH

Ar gael am 50c o nifer o siopau lleol gan gynnwys:

Palas Print

Silver Star

Caffi Te a Cofi

darllen mwy

Noson Cystadleuaeth Cyri 04/03/2016

Noson Cystadleuaeth Cyri 04/03/2016


CHW 20, 2016 - NICIBEECH

Da ni wedi bod yn chwilio am gogyddion amatur i gystadlu efo’u cyri gorau mewn noson hwyliog llawn bwyd. Mici Plwm sydd yn llywio’r noson, bydd gwobr o £50 a bydd h

darllen mwy

Lansio’r wefan yn Neuadd y Farchnad

Lansio’r wefan yn Neuadd y Farchnad


RHA 09, 2015

Heno byddwn yn lansio’r wefan ac yn croesawu busnesau ac unigolion lleol i ddod i glywed am ein cynlluniau ac i gyfrannu syniadau a barn.

darllen mwy

Noson Tân Gwyllt

Noson Tân Gwyllt


TACH 05, 2015 - MEI

Cyfranodd cigyddion, pobyddion a chyflenwyr bwyd lleol selsig a rholia bara er mwyn ein cefnogi wrth godi arian i’r wyl ar gyfer ein digwyddiad codi arian cyntaf. O Fenter Fachwen, mi wnaethon ni logi Cegi Cofi, a galw ar...

darllen mwy

Lawnsio’r Ŵyl a’r Logo

Lawnsio’r Ŵyl a’r Logo


TACH 01, 2015 - NICIBEECH

Lawnsiwyd Gŵyl Fwyd Caernarfon yng nghaffi Te a Cofi Gisda ar y Maes. Daeth torf i’r caffi i flasu bwyd lleol, mwynhau cerddoriaeth fyw ac i groesawu’r newyddion y bydd Caernarfon yn cynnal ei gŵyl fwyd cyntaf ymhen...

darllen mwy

Archif

2018 | 2017 | 2016 | 2015

© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd