24/09/19(Cymraeg yn unig) Gyda’r awyr yn las a’r awel gynnes, ymlwybrodd dros 70 ohonom am Waunfawr ar y trên bach. Ar ôl pasio Fron Goch, y caeau llawn pridd ble byddwn yn gwibio heibio i Gaernarfon ar y ffordd newydd a lot o gaeau gwyrdd, dyma gyrraedd Waunfawr a chael sgwrs ddifyr gan Duncan Brown a dau gyfaill am hanes yr ardal. Mi ddechreuodd yr hwyl wedyn, gyda phawb yn cerdded fel tasa ni’n nelu hi am arch noa, fyny am Antur. Ac ar ôl ochrgamu heibio ambell ddanadl poethion digywilydd a chodi prams dros giât mochyn, dyma gyrraedd Antur Waunfawr. Ac mi oedd gwledd yn ein disgwyl yno – y plant yn gwibio am y parc a’r ‘meri-go-rownd’, a’r oedolion yn cael mwynhau’r haul efo paned neu beint yn eu llaw. O gwmpas y lle, mi oedd staff yr Antur wedi bod yn brysur yn paratoi ar ein cyfrer, gyda stondin yn dangos y darluniau gwych sy’n cael eu creu yno, bwrdd tombola, perfformiadau gan artistiaid lleol, stafell i g’nesu’r synhwyrau a barbeciw - allem ni ddim fod wedi gofyn am fwy. Diolch yn fawr am agor eich drysau i ni Antur Waunfawr, a mi fyddwn ni yn sicr o alw eto i fwynhau paned neu brynu anrheg yn eich siop wych. Diolch hefyd am gefnogaeth Rheilffordd Eryri, sydd wedi ein cynorthwyo i godi arian tuag at yr Ŵyl Fwyd. Back to the news page. |
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Website by Delwedd