Sut fyddwch yn ein cyrraedd? O ystyried llwyddiant ysgubol y dair flynedd gyntaf a’r niferoedd a fu’n tyrru i’r dref, byddem yn eich annog i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus yn hytrach na cheir os ydych chi’n byw ddigon agos ac â mynediad hawdd at drafnidiaeth.
Pe dymunwch deithio ar drên stêm hamddenol gan fwynhau golygfeydd godidog o Feddgelert a Waunfawr, gallech deithio ar drên arbennig Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae’r trên yn cynnig gwasanaeth ychwanegol o Borthmadog i Gaernarfon er mwyn sicrhau fod ymwelwyr a phobl leol yn gallu bod yn rhan o’r digwyddiad yma sy’n arddangos y gorau o gynnyrch lleol Cymreig.
Mae sawl bws yn rhedeg i mewn i Gaernarfon o bob cyfeiriad. Disgwylir i’r Ŵyl Fwyd ddod i ben erbyn 5y.h. ac felly, ystyrir y bydd y rhan helaeth o fysiau yn dal i redeg wedi hynny.
Gellir dod o hyd i holl amserlenni bysiau’r ardal yn ogystal â chyfleuster hwylus i gynllunio’ch taith wrth ymweld â gwefan Cyngor Gwynedd.
Gallech hefyd deithio ar eich beic. Yn dilyn cynnydd ym mhoblogrwydd beicio a cherdded fel gweithgareddau hamdden, datblygwyd yr hen lwybrau rhielfyrdd yng Ngwynedd yn rwydwaith o lwybrau beicio a cherdded yn ystod yr wythdegau. Erbyn heddiw mae’n syflaen sy’n ffurfio rhwydwaith Lonydd Glas Gwynedd. Mae Lôn Las EIfion yn arwain o Borthmadog heibio Penygroes, ac i Gaernarfon, Lôn Las Menai yn rhedeg o’r Felinheli i Gaernarfon, a Lôn Las Peris o Lanberis i Gaernarfon.
Mae gwybodaeth pellach a mapiau i’w cael ar wefan Cyngor Gwynedd.
I’r rhai ohonoch sy’n dymuno dod â char i’r Ŵyl, gallech barcio yn un o amryw feysydd parcio talu ac arddangos y dref.
Mae gwybodaeth am barcio hefyd i’w gael ar wefan Cyngor Gwynedd, ac os ydych chi’n ddaliwr tocyn parcio blynyddol, cewch ei ddefnyddio mewn unrhyw faes parcio arhosiad hir.
Bydd Ysgol Syr Hugh Owen yn agor eu maes parcio i’r cyhoedd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl eto eleni, chwarter awr o gerdded i ganol y dref.
Am wybodaeth i stondinwyr ar gyrraedd yr ŵyl, gweler ein tudalen stondinwyr.
© 2024 Gŵyl Fwyd Caernarfon. Gwefan gan Delwedd